Candelas

Bydd un o fandiau amlycaf y sin roc Gymraeg yn dychwelyd yn ôl i lwyfan Maes B eto gyda’u cerddoriaeth indi roc a mymryn o ddylanwad y blues. Un o fandiau mwyaf gweithgar y sin yng Nghymru, wrth atgyfodi yr anthem ‘Rhedeg i Paris’ gan yr Anrhefn yn ystod haf gwallgo’ tim pêl droed Cymru ac yn recordio EP newydd ar hyn o bryd, mae’r band a charisma Osian y prif leisydd yn sicr o ddiddanu torf Maes B eleni.