Chroma

Gan ystyried mai blwyddyn yn ôl ffurfiwyd y triawd o Aberdar mae’n rhyfeddol faint o argraff ysgytwol mae’r band wedi cael ar y Sin Roc Gymraeg. Gyda presenoldeb a llais trydanol Katie Hall yn hawlio’r llwyfan, mae’n anodd tynnu’ch clustiau a’ch llygaid oddi wrth y band. Ers gipio teitl enillwyr Brwydr y Bandiau yn 2016 aeth y band o nerth i nerth yn rhyddhau eu EP cyntaf ac yn rhyddhau sengl newydd ‘Claddu 2016’. Band sydd a neges wleidyddol gref, angerdd trwm ydynt,  sy’n sicr am daro deuddeg â chynulleidfa Maes B.