Fleur De Lys

Y mae’r band o Fôn, Fleur De Lys yn dychwelyd i Maes B eto eleni gyda’i riffs catchy a’u caneuon sy’n ddigon i godi calon unrhywun. Yn dilyn eu blwyddyn yn rhan o’r rhaglen Gorwelion, mae’r band indi roc pop wedi perfformio mewn amryw o wŷliau cerddorol ledled Cymru a Lloegr ac wedi cael y cyfle i recordio sesiwn yn Stiwdios Maida Vale. Yn dilyn blwyddyn o gigio dibendraw a rhyddhau eu EP diweddara’ ‘Drysa’ bydd llawn digon gan Fleur De Lys i’w gynnig.