HMS Morris

Ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf eleni, ‘Interior Desgin’ a fideo gerddoriaeth gomic-seicadelig i gyd-fynd â’r albwm bydd HMS Morris yn ôl ar ein llwyfan eleni i arddangos eu casgliad o ganeuoon gwych. Yn chwa o awyr iach i’r sîn yng Nghymru gyda’i sŵn psych pop unigryw o harmoni ecsentrig, geiriau bachog fel ‘Dwi’n gormod o ddyn i ‘sgwennu am gariad’ a charisma Heledd y prif leysydd mae eu set yn addo i fod yn un o uchelbwyntiau Maes B.