Sŵnami

Ar ôl ennill Albwm Cymraeg Gorau’r Flwyddyn ac wedi perfformio ar lwyfan y pafiliwn gyda Welsh Pops Orchestra y flwyddyn dwethaf, mae Sŵnami yn ôl. Nid yw eu caneuon yn ddiethr i gynulleidfaoedd Maes B gyda’i riffs eiconig a’u cerddoriaeth gitar egniol sy’n aros yn y cof.  Wedi’u cymharu â Arctic Monkeys a Catfish and the Bottlemen gan Gorwelion mae’r band yn addo perfformiad gwych arall i’w ffans ymrwymiedig.