Y Reu

Mae Y Reu yn fand pum person o Ddyffryn Nantlle/Caernarfon sydd yn hoffi gwneud twrw mawr gyda ‘drops’ mor fudur bydd angen i chi olchi eich clustiau ar ôl gwrando arnynt. Egni, cyffro ac amser da yw ethos y band a byddwch yn clywed ystod eang o ddylanwadau yn eu cerddoriaeth, gyda’r decs yr un mor bwysig â’r gitâr. Cafodd EP cyntaf y band ‘Hadyn’ ei ryddhau yn Hâf 2015 a bydd cynnyrch newydd yn cyrraedd eich clustiau yn 2017.

Reu dy hosan!