Yr Eira

Yn dilyn rhyddhau eu sengl newydd ‘Suddo’ eleni a fideo i gydfynd a’r gân, mae’r band o Fangor yn brysur ddod yn un o fandiau amlycaf Cymru. Heb os, tydi’r prif leisydd Lewys Wyn ddim yn brin o ganeuon, a’i glust am gân fachog, egniol gitaraidd, yn cyfoethogi tonfeddi Radio Cymru a Radio 1 yn aml.