Yws Gwynedd

Heb os un o brif, os nad unig bop star Cymraeg ar hyn o bryd. Mae’r merched yn gwirioni a’r dorf yn seboni wrth i Yws Gwynedd chwarae ei ‘back-catalogue’ hynod o fachog i gynulleidfa frwd Maes B. Mae poblogrwydd y gŵr a’i gerddoriaeth gitar pop yn dangos bod modd bod yn llwyddiannus drwy gyfrwng y byd pop Cymraeg.