Rhai o brif artistiaid Maes B eleni…
Yws Gwynedd
Indie pop hafaidd i symud y traed a’r pen! Mae Yws Gwynedd yn ôl am haf o gigs a thiwns newydd.
HMS Morris
Bananas, lamp shades a thiwns gwallgo. Daliwch yr anhygoel HMS Morris yn cloi Llwyfan 2 ar y nos Fercher.
Mellt
Gitârs melodig ac alawon cofiadwy – mae Mellt wastad yn gadael argraff. Mae eu hail albwm ‘Dim Dwywaith’ wedi derbyn cryn ganmoliaeth gan Clash, NME ac Uncut Magazine.
Chroma
Disgwyliwch set ffrwydrol gan y band lleol o Bontypridd yn llawn caneuon o’u albwm cyntaf sy’n archwiliad trawiadol o dyfu fyny yng Nghymoedd De Cymru a phrofiadau real merched a menywod ifanc.
Mared
Tiwns anhygoel ac o bosib un o leisiau gorau Cymru. ‘Da ni methu aros i weld Mared yn cloi’r ail lwyfan ar y Nos Wener, wrth iddi berfformio caneuon o’i EP diweddaraf, ‘lately’ gyda band llawn.
FLEUR DE LYS
Mae’r band o Fôn yn parhau i fod mor boblogaidd ag erioed, wrth iddyn nhw baratoi i headleinio Maes B am y tro cyntaf eleni. Be well na feel-good indie roc i orffen yr wythnos!