Brwydr y Bandiau 2021

Eleni, ar ôl blwyddyn caled i’r sîn gerddoriaeth, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod 10 artist neu band wedi trïo am gystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Dyma ‘chydig bach amdanyn nhw…

 

Cai
Cai yw band Osian Cai o Ddyffryn Nantlle. Ar ôl chwarae mewn bands eraill, fe aeth ati i ddechrau cyfansoddi a gweithio ar gerddoriaeth ei hun.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Tiger Bay
Tiger Bay yw Cai, Conor, Bobo, Joe a Jackson o Gaerdydd, a mae’n nhw i gyd yn mwynhau mynd i wylio bands yn chwarae’n fyw rownd y ddinas. A dyma yw un o’i prif rhesymau am gychwyn band.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Tesni Hughes
Mae Tesni Hughes yn byw yn Llangefni ac mae’n mynychu Ysgol David Hughes. Mae’n mwynhau’r broses o ysgrifennu caneuon ac mae’n gobeithio rhyddhau albym yn y dyfodol.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Iestyn Gwyn Jones
Mae Iestyn Gywn Jones yn byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau creu a chyfansoddi cerddoriaeth. Mae’n chwarae gyda’i fand sef Dan Jones a Sam Davies. Mae’n mwynhau llwyth o gerddoriaeth gwahanol gan gynnwys Yr Eira, Yws Gwynnedd a Candelas.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Rhys Owen
Mae Rhys Owen yn wreiddiol o’r Wyddgrug ac mae’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wrth ei fodd yn chwarae’r gitar ac yn disgrifio ei ganeuon fel acoustic pop.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

skylrk
skylrk yw persona yr artist Hedydd Ioan o Ddyffryn Nantlle. Mae’n hoff iawn o gyfuno storïau a caneuon a dyma sy’n ysbrydoli ei gerddoriaeth.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Dafydd Hedd
Mae Dafydd Hedd o Fethesda ac wedi bod yn creu cerddoriaeth ers blynyddoedd. Un o’i uchelgeisiau yw i gyd-weithio gyda llwyth o artistiaid gwahanol yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Gofodwyr ar Goll
Gofodwyr ar Goll yw Ewan, Tom a Dom a mae’n nhw i gyd o Gaerdydd ac yn mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae’n nhw i gyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth ac yn mwynhau dod at ei gilydd i ‘sgwennu.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Band Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan (dim enw i’r band eto)
Mae’r bois yma yn byw yng Nghaerdydd ac yn mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Ma’ nhw’n gwrando ar llwyth o gerddoriaeth a’u prif ysbrydoliaeth yw bands fel Oasis, Big Leaves a Ffa Coffi Pawb.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!

 

Lucy Jenkins
Mae Lucy Jenkins yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi bod yn cyfansoddi ac yn dysgu ‘i hunan sut i gynhyrchu ers yn 14 oed ac mae’n disgrifio ei chaneuon fel cyfuniad o roc-gwerin a metal-gwerin.

Perfformiad byw ar gael fan hyn!