Cinzia Mutigli

CinziaMutigli_MYGC_ZineFeaturedImage

Yn gweithio ar draws amryw o gyfryngau gan gynnwys testun, perfformiad a fideo, mae Cinzia Mutigli yn creu gwaith sy’n cysylltu stori ei hun gyda hanesion diwylliannol ehangach. Trwy ystyried sut mae amgylcheddau diwylliannol domestig, cymdeithasol-gwleidyddol a phoblogaidd yn rhyngweithio i gael effaith ar ein persona, seicoleg ac ymdeimlad o’n hunan. Mae hi’n siarad am batrymau, arferion, cylchoedd a lŵpiau. Gwelir themâu a motiffau cyson trwy’r gwaith fel papur wal, gwallt, ymarferion ac actio. Dwi’n rhannu’r gwagle gydag eiconau diwylliannol poblogaidd ac weithiau rydym yn sefyll mewn i’n gilydd.

Mae’r prosiectau diweddaraf yn cynnwys testun am iselder a sut i wynebu’r byd, fideo am ddyheadau heb ei gyflawni a’r effaith o ddiffyg cwsg a pherfformiad a fideo ynglŷn â dylanwadau ar ein hunaniaeth a’n cysylltiad i bopeth. Ar hyn o bryd, mae Cinzia’n arddangos ffilm a gosodiad papur wal dan deitl ‘I’ve Danced at Parties’ fel rhan o sioe Survey ll Jerwood Arts.

Darllenwch zine Merched yn Gwneud Celf yma.
Dilynwch Cinzia Mutigli ar Instagram yma.