Skip to content

Mae Maes B wedi’i leoli’n agos at y maes carafanau eleni, gan ei wneud yn hawdd a diogel i bobl ifanc sy’n aros ar y maes carafanau a gwersylla i ddychwelyd yno ar ddiwedd y nos.

Rydyn ni’n ymwybodol ac yn gwerthfawrogi fod hyn yn bwysig i rieni, yn enwedig y rheini sydd â’u plant yn ymweld â Maes B am y tro cyntaf, ac rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi nad yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n aros ar y safle yn adnabod ardal Pontypridd yn dda.

TEITHIO O’R GOGLEDD (TEITHIO I’R DE AR YR A470)

Cymerwch yr allanfa am yr A4223 (Pontypridd). Ar waelod y slipffordd, cymerwch y lôn dde ar gyfer canol y dref ac ewch ymlaen i’r gylchfan.
Cymerwch allanfa’r A4223 (Pontypridd). Ewch ymlaen ar hyd Stryd y Bont, dros y bont cyn troi i’r dde i’r B4273 (Heol Berw). Parhewch tua’r gogledd ar Heol Berw nes i chi gyrraedd y fynedfa i Maes B, a fydd wedi’i arwyddo oddi ar y ffordd.

TEITHIO O’R DE (TEITHIO I’R GOGLEDD AR YR A470)

Cymerwch Gyfnewidfa Broadway. Ar y slipffordd, arhoswch / cymerwch y lonydd chwith ac ewch ymlaen at y gylchfan a chymerwch yr allanfa gyntaf tuag at ganol y dref.
Ar ôl cyrraedd cyfnewidfa Stryd y Bont, ewch i mewn i’r gylchfan a chymerwch yr allanfa gyntaf i Stryd y Bont. Ewch ymlaen ar hyd Stryd y Bont, dros y bont cyn troi i’r dde i’r B4273 (Heol Berw). Parhewch tua’r gogledd ar Heol Berw nes i chi gyrraedd y fynedfa i Maes B, a fydd wedi’i arwyddo oddi ar y ffordd.

TRAFFIG O’R GORLLEWIN (TEITHIO I’R DWYRAIN AR YR A4058 Ffordd Cymer)

Bydd traffig yn cael ei gyfeirio i’r chwith i Heol Rhondda. Ar ôl cyrraedd y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf i Heol Gelliwastad, cyn troi i’r chwith i’r B4273 (Heol Berw). Parhewch tua’r gogledd ar Heol Berw nes i chi gyrraedd y fynedfa i Maes B, a fydd wedi’i arwyddo oddi ar y ffordd.

TEITHIO O MAES B I FAES YR EISTEDDFOD

Mae teithio o ben pellaf y safle i’r brif fynedfa yn llai na hanner milltir o bellter gyda’r daith yn cymryd llai na 20 munud, ar hyd llwybr dynodedig diogel a phwrpasol i feicwyr a cherddwyr. Nid oes gwasanaeth bws gwennol yn rhedeg o’r safle i’r Maes eleni.