Skip to content

Maes B yw brawd bach direidus yr Eisteddfod ar ôl iddi dywyllu. Disgwyliwch bedair noson anghofiadwy o fandiau, artistiaid a DJs gorau Cymru. Cynhelir yr ŵyl eleni yn Llantwd, yng nghalon gogledd Sir Benfro. Bydd y Maes Pebyll yn agor nos Fawrth, 4 Awst, gyda pharti agoriadol, cyn i’r prif arlwy ddechrau nos Fercher, 5 Awst, a pharhau tan nos Sadwrn, 8 Awst.

Gwybodaeth

Gofal a Lles

Mae gofal a lles mynychwyr Maes B yn hollbwysig i’r trefnwyr.

Rydym yn cydweithio â phartneriaid allanol fydd yn bresennol ar y safle, sy’n darparu gwasanaethau lles a meddygol i fynychwyr Maes B. Mae iechyd corfforol ac emosiynol yn ogystal â lles cyffredinol mynychwyr Maes B yn flaenoriaeth i’n holl bartneriaid. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i ddiogelu, cefnogaeth i wella os yn dioddef o unrhyw anhwylder, a chefnogaeth i atal rhag unrhyw sefyllfa sy’n bygwth codi.

Os ydych chi’n poeni am unrhyw beth, gan gynnwys effeithiau cyffuriau ac alcohol, ewch at aelod o’r tîm diogelwch, un o weithwyr St John’s neu at Staff Maes B â fydd yn bresennol ar y safle drwy gydol yr wythnos

Yn ogystal, rydym yn cydweithio â gwasanaeth

Dan 24/7 – llinell gymorth ddwyieithog sy’n cynnig un pwynt cyswllt i unrhyw un sydd angen gwybodaeth neu help mewn perthynas â chyffuriau ac alcohol.

Ffoniwch 0808 808 2234 (gwasanaeth 24 awr am ddim, ni fydd y rhif hwn yn ymddangos ar filiau)

Tecstiwch y gair DAN gyda’ch cwestiwn i 81066 (gwasanaeth 24 awr)

Cyfryngau cymdeithasol – www.facebook.com/Dan247helpline

Lleihau Trosedd a Diogelwch Personol 

Mae’r Eisteddfod a Maes B yn ŵyl heddychlon, ond mae rhywfaint o droseddu yn gallu digwydd yn anffodus.

Lladrata yw’r drosedd fwyaf cyffredin, a gall hyn fod yn lladrad oddi arnoch chi yn bersonol neu o bebyll. Bydd staff diogelwch a stiwardiaid yn gofalu am y safle a defnyddir camerâu cylch cyfyng – ar y safle ac oddi ar y safle – er mwyn atal trosedd.

Gallwch helpu chi eich hun drwy ddilyn y cyngor isod. Peidiwch â gadael i droseddwyr ddifetha eich mwynhad drwy gyflawni trosedd yn eich erbyn chi neu eich ffrindiau.