Honey Hambley

HoneyHambley_MYGC_ZineFeaturedImage

Mae Honey Hambley yn artist amlgyfrwng o Gaerdydd. Mae ei gwaith celf yn amrywiol ond, yn aml mae themâu cyson fel presenoldeb, gofod, cynhyrchiad a ffantasi. Mae yna gysondeb yn y gwaith gan ei bod hi’n meddwl am wrthgyferbyniad neu berthynas sy’n bodoli rhwng y byd digidol a’r byd naturiol. Mae ganddi wir ddiddordeb yn Sci Fi a’r syniad o ddimensiynau amgen. Gan amlaf, mae’r gwaith yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu brofiadau personol iddi, gall y rhain fod yn brofiad o le, neu atgof o amser penodol. Mae symudiad a pheirianneg hefyd yn bresennol yn ei gwaith, yn enwedig o fewn ei cherfluniau a gosodiadau, mae’n hoff o feddwl bod gan ddarn o gelf egni. 

Mae Honey yn rhan o weithfa ‘Lone Worlds’, cymuned o bobl o De Cymru sy’n creu cyfleoedd i gysylltu fel cymuned greadigol. Astudiodd Gelf Gain yn Goldsmiths College yn Llundain.

Dechreuodd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y llun ‘pano’ ar ôl gweld llun camgymeriad ar ei ffôn symudol, llun o‘i ystafell wely oedd hi, ond o ongl gwbl wahanol i sut y mae hi fel arfer yn gweld ei ‘stafell. Roedd hi’n hoff iawn o’r ffaith bod mwyafrif o luniau camgymeriad yn cael ei ddileu, ac felly penderfynodd ei beintio er mwyn rhoi amser i rywbeth sydd fel arfer yn cael ei anwybyddu. Gallwch weld y manylion fel y picsel a’r ffrâm ddu sy’n pwysleisio’r elfen ddigidol. Mae ei chelf yn aml yn ymwneud â recordio ag ymchwil i mewn i lefydd (dibwys) sy’n cael ei anghofio. Mae hi’n ceisio ail-ddarganfod y llefydd cudd yma trwy greu celf sy’n eu pwysleisio mewn ffordd hudolus, arallfydol. Yn ddiweddar, mae Honey wedi ailgychwyn ar baentio – ymateb naturiol ar ôl cael cyfnod y pandemig lle’r oedd rhaid arafu lawr.

Darllenwch zine Merched yn Gwneud Celf yma.
Dilynwch Honey Hambley ar Instagram yma.