Kathryn Ashill

KathrynAshill_MYGC_ZineFeaturedImage

Mae arfer amlddisgyblaethol Ashill yn cynnwys actio amatur, byrddau theatr, diwylliant Brenin Drag, fideo a pherfformiad sy’n defnyddio’i phrofiadau personol o ddiwylliant uchelradd a hunaniaeth dosbarth gweithiol.

Mewn modd doniol a chwareus, mae Ashill yn defnyddio estheteg ‘gwnewch eich hun’ actio amatur i greu gwisgoedd a setiau i gyfleu a chreu nifer o chymeriadau. Yn ei pherfformiadau, mae Kathryn wedi ffocysi ar nifer o themâu, gan cynnwys Cliff Richard, hanes ‘Butlins’ a ‘knobbly knees’, y ‘principal boy’ yn pantomime, cylchgrawn Take a Break a chath wnaeth lladd rhywun mewn bywyd gorffennol.

Ganwyd Kathryn Ashill yn Abertawe ym 1984 ac mae’n byw ac yn gweithio ar Ynys y Barri. Enillodd Ashill radd BA gydag Anrhydedd yng Nghelfyddyd Gain (Cyfryngau Cyfun) ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (PCYDDS bellach) ac mae ganddi radd MFA o Ysgol Gelf Glasgow, ac wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Ashill yn ymgeisydd PhD ar sail arfer ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Manceinion, lle mae’n ymchwilio i botensial cydweithio rhwng rhywogaethau mewn creu gwaith celf trwy berfformio a bio therapi. Ariennir y gwaith ymchwil hwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Darllenwch zine Merched yn Gwneud Celf yma.
Dilynwch Kathryn Ashill ar Instagram yma.

kathrynashill.com