ADWAITH

Adwaith yn curadu zine Merched yn Gwneud Miwsig Rhifyn 1

Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn falch i gyhoeddi ZINE newydd, wedi’i guradu, cydlynio a dylunio gan ferched, i ferched. Pob yn ail fis bydd merch(ed) o Gymru yn curadu rhifyn newydd, yn dod ag artistiaid celf, miwsig, geiriau a mwy at ei gilydd i gyfrannu at un ZINE cyflawn. Pwy well i lansio’r prosiect newydd na ferched blaena’r sîn – Adwaith!
Felly dyma ni’n pasio’r baton draw, gyda’n rhifyn gyntaf erioed nawr yn fyw.

Darllenwch rifyn 1 yma!

Dilynwch Adwaith ar Instagram yma.