ALEIGHCIA & ESYLLT

AleighciaScott_EsylltLewis_CoverImage_Zine2MYGM

Mae Aleighcia Scott yn gantores benywaidd ifanc a phwerus sy’n gadael ei marc ar y sin Reggae. Mae ei sengl diweddaraf ‘Bad Lover’ yn gydweithrediad â’r cynhychwyr LP ac Andre Solid.
Mae’n gân sy’n archwilio’r anhawster o fod gyda person sy’r un mor ddrwg ac yw’n dda. Mae pŵer llais Aleighcia yn dod o’r enaid ac mae’r allweddellau reggae yn gyfeiliant hypnotig.

Artist o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Lewis sy’n ystyried y cysylltiad rhwng gwarchod ieithoedd lleiafrifol a gwarchod yr amgylchedd. Mae’n cymryd comisiynau ac yn gwerthu gwaith dros Instagram.

Dyma gân Aleighcia ac ymateb gweledol Esyllt iddo.

Darllenwch rhifyn 2 yma.
Dilynwch Aleighcia ar Instagram.
Dilynwch Esyllt ar Instagram.

Celf 'Sgwennu Serch' gan Esyllt Lewis i zine Merched yn Gwneud Miwsig