Ashrah Suudy

Ashrah Suudy Banner Image

Haia, fi yw Ashrah Suudy a dwi’n ffotograffydd llawrydd, myfyriwr a pherson creadigol yn byw yng Nghaerdydd. Roedd fy nghyfres ffotograffiaeth ‘East in Colour’ yn ymroddedig at fy niwylliant Somali. Mae’n gyfres sydd wir yn ymgorffori fy hunaniaeth, naratif dwi’n falch o arddangos. Canolbwynt ‘East in Colour’ oedd y ‘Dirac’, ffrog Somali sy’n cael ei wisgo gan fenywod ar ddigwyddiadau arbennig fel Eid a phriodasau. Roedd cwblhau’r gyfres wedi galluogi mi i archwilio fy ngwreiddiau yn ddyfnach, ac wedi dynodi sut mae fy niwylliant yn chwarae rôl cryf yn fy hunaniaeth, a’r pwysigrwydd o arddangos fy hun yn ddianolog, yn falch! Mae defnyddio ffotograffiaeth fel cyfrwng i arddangos y dillad a fy niwylliant o flaen a thu ôl y lens yn rhywbeth rydw i’n hynod o falch ohoni.

Mae’r effaith y mae’r gyfres yma wedi cael ar rai, ac ar fy hun, wedi bod yn agoriad llygaid. Yr ymgyrch i greu gofod lle gall fy nghymuned i, yn benodol i ferched du, Mwslimaidd, ifanc, gallu gweld ei hun wedi’i adlewyrchu yn fy lluniau. Rydw i’n gobeithio gallu parhau gyda’r un pwrpas wrth i mi greu darnau o waith gall pobl wir uniaethu gyda, ac i roi pwysau a phwyslais ar greu ymadroddion authentig a chreadigol o fy nghymuned. Rydw i’n gyffrous i rannu addasiad o ‘East in Colour’ mewn ffilm fêr, o’r enw ‘In a Room Full of Sisters’, a chafodd ei gomisiynu gan BBC Arts, BBC Wales, Ffilm Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Fi methu aros i bobl cael ei weld unwaith mae e wedi’i gwblhau.

Darllenwch rhifyn 3 yma.
Dilynwch Ashrah ar Instagram yma ac yma.

Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH

Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH
Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH
Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH
Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH

Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH
Gallery of 'East in Colour' photography collection by Ashrah Suudy
Autosave-File vom d-lab2/3 der AgfaPhoto GmbH