CASI A LLINOS

Post blog Casi Wyn a Llinos Owen am rhifyn 1 o ZINE Merched yn Gwneud Miwsig

Mae Casi Wyn yn gantores-gyfansoddwraig o Fangor. Y llynedd fe ryddhaodd gasgliad o ganeuon gyda Chess Club Records a chyn y Nadolig fe ysgrifennodd ei ffilm fer gyntaf “Robin Goch.” Yn dilyn perfformiadau yng ngwyl SXSW a seremoni BAFTA Cymru y llynedd, mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar greu record gerddorol newydd. Mae hi hefyd yn un o gyd-sefydlwyr Codi Pais.

Artist sydd yn wreiddiol o Gaernarfon yw Llinos Owen, ond nawr yn byw yn Llundain ar ôl graddio o gwrs Celf Gain yn mis Gorffenaf o brifysgol celf yn Wimbledon. Mae ei gwaith yn archwilio’r ffigwr benywaidd drwy gyfres o portreadau manwl trwy’r cyfryngau o ddarlunio, argraffu a gwaith tecstiliau fel brodwaith a gwehyddu ryg. Mae diwylliant cyfoes Cymru, themâu o hunaniaeth a bywgraffiad yn cael ei gweu gyda llên gwerin, chwedloniaeth a ffantasi i ffocysu ar y perthynas rhwng naratif a ni. Mae hunaniaeth a rhyw yn themâu pwysig i’w ymarfer creadigol gan fod y cyfryngau ‘crefft’ a ddefnyddiwn ac y llafur sydd ynghlwm â phrosesau argraffu a brodwaith yn gydnabod hanes hunaniaethau benywaidd a rolau hanesyddol traddodiadol merched yn y gofod domestic a yn y gweithle. Mewn gwrthbyniad, mae’n gosod delweddau cyfoes sy’n ifanc eu naws gyda lliwiau a patrymau bywiog a llachar sy’n dathlu’r profiadau a straeon sy’n siapio ni.

Darllenwch rifyn 1 yma!
Dilynwch Casi ar Instagram
Gwefan Llinos
Dilynwch Llinos ar Instagram

 

Darn ysgrifennedig 'Post' gan Casi Wyn ar gyfer rhifyn 1 o ZINE Merched yn Gwneud Miwsig

 

Celf 'Nosweithiau Gorffennaf' gan Llinos Owen ar gyfer rhifyn 1 o ZINE Merched yn Gwneud Miwsig