FFION TAYLOR

Post blog Ffion Taylor am rhifyn 1 ZINE Merched yn Gwneud Miwsig

Fy enw i yw Ffion Taylor, dwi’n greadigol Cymreig o Abertawe. Mae ymgysylltu a rhyngweithio wrth wraidd fy arfer. Fy nod yw creu gwaith sy’n ysgogi’r meddwl, yn rhyngweithiol ac yn gyffrous ar gyfer y gynulleidfa. Rwy’n defnyddio fy sgiliau gwneud pethau i ddylunio profiadau sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o themâu pynciol gan gynnwys realiti, cynaladwyedd a’r amgylchedd. Dylunnir y profiadau hyn i gyfeirio a herio ein canfyddiadau mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Rwy’n artist sy’n defnyddio cyfryngau lluosog, gan weithio gyda gwrthrychau wedi’u crefftio, ac yn gwellgylchu deunyddiau’n aml, gan ddefnyddio cyfrifiadura diriaethol, goleuadau, drychau a lliw i greu naratifau a rhithiau sy’n mynd y tu hwnt i’r cyffredin. Rwy’n ceisio creu gwaith sy’n adlewyrchu’r haenau cuddiedig nad ydynt yn amlwg, gan drawsnewid yr amgylchedd cartref gor-gyfarwydd i ofod arddangosfa annaearol, digrif a chreadigol.

Darllenwch rifyn 1 yma!
Dilynwch Ffion ar Instagram

Darn o gelf gan Ffion Taylor yn rhifyn 1 o ZINE Merched yn Gwneud Miwsig