Gwenno Llwyd Till

GwennoTill_CoverImageWebsite_ZineIssue4MYGM

Sgwrsio gyda’r ffotograffydd Gwenno Llwyd Till

“Gwenno Llwyd Till ydw i a dwi’n artist yn wreiddiol o Nant Gwynant/Criccieth, ac wan yn byw ac yn astudio ffilm a theledu yn Llundain. Dwi’n 20 oed ac yn fy mlwyddyn cynta yn yr University of the Arts London; blwyddyn diwethaf mi gwblhais y cwrs fantastic sylfaen Celf a Dylunio ym Mangor.

Llun gan y ffotograffydd Gwenno Llwyd TillFfotograffiaeth a ffilmio yw fy angerdd, ond hefyd dwi wrth fy modd yn sgetsio, creu gwaith graffeg, a gwaith ysgrifennedig. Dwi’n hoffi defnyddio film 35mm ond maeo’n gostys felly dwi’n tynnu a golygu lluniau digidol i mimicio steil a arddull ffilm – dwi wrth fy modd efo aestheteg a teimlad ffilm, felly dwi’n gobeithio gai weithio mwy efo’r dyll yma wrth imi ddatblygu. Yn ystod y cynfod clo cyntaf dynnais cyfres o hunan bortreadau yn adrodd fy mhrofiad, bron fel dyddiadur ffotograffig.

 Bu natur yn fy’n ysbrydoli yn ddyddiol, wrth imi eistedd mewn goedlan ar ddiwrnod braf neu nofio mewn pylloedd gwyllt. Mae yna gymaint o harddwch mewn natur felly ma rhan fwyaf o fy ngwaith hyd yn hyn wedi’w saethu tu allan yn yr awyr agored. Dwi’n licio tynnu lluniau portreadol o ferched  hefyd, a dyna fy ffocws yn ddiweddar! Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio byw a gweithio yn Llundain fel cyfarwyddwr a gwneuthurwr ffilm gyda merched eraill yn y diwydiant.

Dwi wrth fy modd yn saethu portreadau, yn enwedig pan dwi’n uniaethu â’r achos – mae’n bleser gynai weithio Llun gan y ffotograffydd Gwenno Llwyd Till gyda merched talentog sydd yn creu celf diddorol a ysbrydoledig.

Cydweithias gyda fy ffrind Manon Wilson i greu’r ffotograffau isod: mae hi yn ddylunudd ffashiwm amatur a chreuodd hi pob un o’r wisgoedd yn y lluniau. Maent yn dilyn themâu o dir, glaw, y môr, a thywydd.  Nôd ei gwaith yw ysbrydoli mwy o ymchwil i’r ffyrdd niferus y gallwn harneisio elfennau natur ar gyfer arloesi cymdeithasol, a hefyd actifiaeth ar gyfer ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Dynnais y lluniau isod ar fy nhraeth lleol, traeth Cricieth. Dwi’n falch ofnadwy bod fy nghartref dim ond dwy filltir i ffwrdd a dwi’n ddiolchgar ofnadwy fy mod I mor agos i’r môr a mynydd. Mae awyrgylch agored Gogledd Cymru yn brydferthwch sydd yn achosi chi i feddwl am ba mor lwcus ydym ni fel cymry: mae pobdim ar ein stepan drws. Mae golygfeudd Cymru yn chwarae rhan mawr yn fy ngwaith a fyddai’n teimlo yn ddiolchgar a freintiedig pob tro am hyn.

Llun gan y ffotograffydd Gwenno Llwyd TillYn ystod y pandemig dwi wedi bod yn gweithio fel gofalwr iechyd mewn cartref henoed: yn y dyfodol byswn i wrth fy modd creu ffilm ddogfennol am pwysigrwydd rôl gofalwyr yn ein cymdeithas, yn enwedig yn ystod COFID, a phwysigrwydd y gwaith rydym yn gwneud, er mwyn codi ymwyddiaeth i’r swydd ac i ysbrydoli mwy o bobl  ifanc i weithio yn y diwydiant gofal iechyd.

Ar y cyfan, mae fy ngwaith yn dilyn themâu o ffotograffiaeth sydd yn dilyn naratif portreadol: dwi’n mwynhau tynnu lluniau o ffashiwn a gemwaith, o bobl a natur, ac yr effaith dynol ar ein byd amgylcheddol.”

Dillad gan Manon Wilson
Model: Manon Wilson

 

Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Gwenno Llwyd Till ar Instagram.
Dilynwch Manon Wilson ar Instagram.