Magi Tudur

Llun o Magi Tudur sy'n rhan o rifyn 4 zine Merched yn Gwneud Miwsig

Magi Tudur yn sgwrsio am ei busnes newydd crochet

“Magi Tudur ydw i, dwi’n 21 oed ac yn dod o Benisarwaun, pentre’ yn ardal Caernarfon. Dwi’n astudio meddygaeth drwy Brifysgol Caerdydd, ond mi fyddai’n cwblhau fy mhedair blynedd olaf yn y Gogledd. Dwi’n caru be dwi’n neud!

Earrings, sunglasses and a bag made by Magi TudurYn fy amser rhydd, dwi’n ysgrifennu cerddoriaeth o dan yr enw ‘magi.’ Dwy sengl sydd genna i allan ar hyn o bryd – ‘Golau’ a ‘Blaguro’ ac yn gobeithio rhyddhau mwy eleni o dan y label SkiWhiff. Dwi hefyd yn aelod o’r band ‘Pys Melyn’ ond da ni ddim wedi medru cael at ein gilydd llawer flwyddyn yma yn anffodus, o dan yr amgylchiadau.

Dwi’n gymdeithasol iawn, ac wrth fy modd yn mynd i bob digwyddiad a gŵyl sydd yn bosib – dwi’n sicr yn teimlo colled ‘steddfod, a methu disgwyl i gael mynd i Clwb Ifor Bach eto.

Gan fy mod yn hoff iawn o gymdeithasu, a gydag ychydig o ‘fomo’, ma’r cyfnod clo wedi fy helpu mewn sawl ffordd: Dwi wedi cael mwy o amser i ganolbwyntio ar fy nghwrs. Mae meddygaeth yn gallu bod yn drwm ond pan da chi’n mwynhau be da chi’n dysgu, mae pethau gymaint haws.

Hefyd, yn ystod y cyfnod clo cyntaf, nes i ddechrau busnes fy hun – ‘Crochet Magi’ – a dwi’n creu cynnyrch crochet o bob math. Mae’n therapiwtig, ac yn foddhaol gallu gwneud archebion personol i bobl. Dwi rili mewn i ffasiwn – dwi’n ‘chydig o siopaholic ac yn rili licio dillad gwahanol. Felly ma’ grosio yn ffordd i fi fynegi fy nghariad at ddillad! Pan does genai’m stethoscope yn fy llaw – yn sicr ma’ gennai fachyn crosio.

Dechreuodd Crochet Magi yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Oni’n medru crosio ers cwpwl o flynyddoedd ond roedd yn amser da i ddechrau busnes i gadw fy hun yn brysur drwy’r haf hir!

Mae’r gwaith crosio dwi’n neud yn hwyliog a lliwgar a dwi’n pwysleisio fod modd i bobl archebu (bron) be bynnag ma’ nhw isio – o fewn rheswm! Fy ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith yw lliwiau’r 70au e.e. brown oren melyn, a blodau – ond dwi’n arbrofi gyda bob mathau o liwiau hefyd.

Llun o siwmper crochet gan Magi TudurY pethau dwi’n eu gwneud rhan amlaf yw; Siwmperi, Topiau, Clustdlysau, Bucket Hats, a Bandiau Gwallt. Ond dwi wedi bod yn gwneud ‘throws’, clustogau, byntings, mandalas i hongian ar y wal, unrhyw beth rili! Mae’n hyfryd gallu gwneud archebion personol i bobl, ac mae’n lyfli gweld pobl yn gwisgo fy nghynnyrch!

Mae’n help mawr fod gymaint o fy nghwsmeriaid yn rhannu lluniau ar Instagram ac ati oherwydd mae’n hybu fy musnes yn llawer fwy na ma’ nhw’n feddwl.

Be sy’n neis ydi fy mod yn mwynhau crosio ac felly dwi’n hapus hapus pan dwi’n cael archebion!

Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Magi Tudur ar Instagram.