Naomi Saunders

Llun o Naomi Saunders sy'n rhan o rifyn 4 zine merched yn gwneud miwsig

Pori trwy brosiectau’r ffotograffydd Naomi Saunders

Mae Naomi Saunders yn berson creadigol sydd â phrofiadau mewn gwahanol feysydd. O ddydd i ddydd, mae hi’n gweithio fel Arweinydd Tîm Creadigol yn Galeri Caernarfon. Mae hi hefyd yn ffotograffydd analog, yn gerddor sydd wedi chwarae mewn amryw o fandiau yn cynnwys band Gwenno, ac mae hi’n treulio lot o’i hamser erbyn hyn yn tyfu bwyd ac yn sgwrsio am blanhigion tŷ…

Llun o gyfres 'Lyra Film' gan y ffotograffydd Naomi Saunders

“Dechreuodd prosiect Lyra Film rhyw flwyddyn yn ôl. Rydw i wedi bod yn tynnu ffotograffau erioed, ond penderfynais gydio mewn camera 35mm llynedd er mwyn gwella fy sgiliau a’m dealltwriaeth o ffotograffiaeth, a dod i nabod fy hun yn well. Dechreuais y dudalen Instagram gyda fy mhartner, Alex Morrison, gan ein bod yn dueddol o greu gwaith gyda’n gilydd yn aml.

Dwi’n ddiolchgar mewn ffordd o’r cyfyngiadau teithio sydd wedi bodoli dros y flwyddyn ddiwethaf gan ei fod wedi fy ngorfodi i grwydro fy milltir sgwâr ac edrych ar bethau yr wyf wedi arfer eu gweld bob dydd, mewn ffordd hollol wahanol. Fel arfer, byswn i’n cydio ar unrhyw gyfle i ddianc o ogledd Cymru, ond erbyn hyn, dwi’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod wedi gallu creu celf o adra – mae wedi bod yn gyfle mor werthfawr i ymarfer, gwneud gwaith ymchwil a gweithio tuag at ffeindio fy steil.

Llun o gyfres 'Lyra Film' gan y ffotograffydd Naomi Saunders

 

Mae natur yn elfen bwysig iawn o’m gwaith, ond dwi’n gobeithio gallu cyfuno hynny gyda phobl llawer mwy wrth i gyfyngiadau godi. Dwi wrth fy modd gyda chyfuno pethau sy’n gwrthdaro ond tydi hynny heb amlygu ei hun yn fy ngwaith eto. Mae gen i gymaint o syniadau yn fy mhen, felly dwi’n gobeithio gallu eu gwireddu yn y dyfodol agos. 

Dwi wedi bod yn casglu planhigion tŷ ers dros bum mlynedd bellach. Y planhigyn cyntaf i mi gael oedd y‘Monstera Deliciosa’ oedd yn boblogaidd yn y 70au ac sydd rŵan yn cael atgyfodiad. Roedd ganddo dair deilen ar y pryd, ac erbyn hyn mae’n dalach na fi. Wrth i’r Monstera dyfu, mae gweddill y casgliad wedi tyfu hefyd – y tro diwethaf i mi gyfri roedd gen i tua 100 sydd braidd yn wirion! Ond dwi wir yn mwynhau edrych ar eu hôl, o wneud gwaith ymchwil ymlaen llaw a chwilota ar-lein er mwyn ffeindio planhigyn arbennig, i greu toriadau bach er mwyn creu mwy o blanhigion a’u rhannu gyda gweddill y gymuned, mae o werth pob eiliad. 

Llun o gyfres 'Lyra Film' gan y ffotograffydd Naomi Saunders

Dwi hefyd yn mwynhau helpu pobl gyda’u planhigion ac felly yn treulio lot (fawr iawn!) o fy amser ar-lein ar grwpiau Facebook gwahanol ac yn helpu pobl ar fy nhudalen Instagram.  

Yn ogystal â phlanhigion tŷ, dwi hefyd yn tyfu ffrwythau a llysiau fy hun, felly mae’r ddau beth yn mynd law yn llaw ac mae cael dealltwriaeth o un yn help mawr ar gyfer y llall.

Mae tyfu planhigion gwir yn llesol i chi, ac i unrhyw un sydd yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl, mae cael rhywbeth i ofalu amdano a’ch cadw yn brysur yn rhoi strwythur i’ch diwrnod, a dwi wedi ffeindio hynny’n help anferthol dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Does ‘na ddim lot o waith wedi ei wneud yn y Gymraeg ar blanhigion tŷ, sydd yn sialens weithiau, ond byddwn i’n hoffi ymchwilio’r posibilrwydd o newid hyn. Mae’n bwnc sydd yn ffasiynol ac yn derbyn mwy a mwy o sylw gan bobl ar hyn o bryd, yn cynnwys y Cymry, ac felly mae’n amser iddo gael sylw.”

Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Naomi Saunders ar Instagram.

Llun o gyfres 'Houseplants' gan Naomi Saunders

Llun o gyfres 'Houseplants' gan Naomi Saunders