Seren Jones

Seren Jones Banner Image

Sgwrs gyda Seren Jones.

C. Sut sati yn disgrifio dy hun, o le ti’n dod, a dy waith di?

A. Seren Jones ydw i. Dwi’n 26 mlwydd oed ac yn gweithio yn Llundain i Uned Podlediad y BBC. Cefais fy ngeni yn Llundain, fy magu yng Nghaerdydd ac mae gen i gefndir cymysg – mae teulu dad yn dod o Gymru a theulu mam o Zimbabwe. Dwi’n caru fy ngwaith ac yn gweithio’n galed ond dwi hefyd yn trio dysgu sut i fwynhau fy ugeiniau ar yr un pryd!

C. Be nath ysbrydoli chdi fynd mewn i’r byd sain – oedd ‘na raglen oedda chdi’n mwynhau, person oedda chdi’n edmygu yn tyfu fyny, ta gesdi rhyw eureka moment?

A. I fod yn onest nes i gwympo i mewn i’r byd sain yn ddamweiniol– os bysa rhywun wedi dweud wrthyf bedwar blynedd yn ôl byswn i’n gweithio fel cynhyrchydd podcast byswn i’n gofyn, ‘beth yw podcasts?!’ Dwi erioed wedi caru straeon a charu pobl – ac mae gen bob un ohonom ni rhywfath o stori i rannu. Dwi’n caru dysgu am bobl a’i phrofiadau – beth maen nhw’n caru, casáu, ofni – pam bod nhw’n ymateb neu behafio fel maen nhw. Felly pan ddaeth y cynnig i weithio ar podcasts yn 2018 nes i neidio at y cyfle! Hefyd roedd hi’n rhywbeth gwahanol a dwi’n caru gwneud stwff ble does gen i ddim profiad achos fi’n caru dysgu. Fi’n ceisio dweud ie am gymaint o brofiadau gwaith ag sy’n bosib – ac oedd gweithio yn y byd podcasts ddim yn eithriad.

C. Ar liwt hynny, os sa ti’n cael neidio a deud ‘ia!’ i gyfarfod a cyfweld unrhyw berson yn y byd, pwy fysa nhw?

A. Kamala Harris – fel islywydd cyntaf America sy’n fenyw o liw – gyda chefndir o India a chefndir du – mae gen i gymaint o gwestiynau byswn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Byswn i’n caru gwario wythnos neu fis gyda hi, jyst yn ei chysgodi er mwyn i mi allai ceisio deall y Kamala proffesiynol a’r Kamala personol. Mae’r pedwar blynedd nesaf yn mynd i newid ei bywyd – mae’n mynd i fod mor ddiddorol i wylio!

C. O’ni wrth fy modd efo dy radio doc Black Girls Don’t Swim i’r BBC World Service. Be oedd o’n feddwl i chdi?

A. BGDS yw’r darn o newyddiaduraeth dwi mwyaf balch ohono hyd yn hyn. Doeddwn i byth wedi meddwl bod fy mhrofiad personol wedi gallu cael ei gyfieithu i fod yn ddogfen radio. Ar ben hynny, nes i fyth disgwyl i’r profiad yma bod mor berthnasol i gymaint o bobl. Dwi’n cofio cael adborth gan olygyddion yn dweud bod nhw’n poeni bod y syniad yn rhy ‘niche’, ond fe wnaeth y ffigyrau gwrth-ddweud y ddadl yna! Dwi mor falch bod fy ngwaith wedi rhoi’r hyder i bobl siarad yn gyhoeddus am ei brofiadau gyda nofio a’u perthynas gyda’i gwallt hefyd. Os mae pethau yn mynd i newid y peth cyntaf sydd angen digwydd yw trafodaeth – ac wrth gwrs mae angen i bobl sydd gyda dylanwad i wrando hefyd – sef rhywbeth dwi wedi gweld ers i’r ddogfen cael ei gyhoeddi. Hefyd, heb y ddogfen fuaswn i heb fynd ymlaen i ddechrau’r elusen the Black Swimming Association ychwaith – elusen sy’n annog pobl du a phobl o liw ym Mhrydain i ddysgu sut i nofio fel sgil achub bywyd allweddol. Gwnaeth y profiad dysgu fi i frwydro am syniadau, pobl a straeon dwi’n meddwl sy’n bwysig ac angen cael ei glywed.

C. Pam fod o’n bwysig cael ‘role models’ da ni’n gallu gweld ein hunain ynddyn nhw, ar ochr y pwll ac ar y tonfeddi? 

A. Mae’n eithaf syml rili. Os wyt ti mewn amgylchedd newydd, ac mae pawb arall sydd yn yr amgylchedd yn wahanol i ti – maen nhw’n edrych yr un beth, siarad iaith wahanol, gyda llawer o bethau yn gyffredin – pethau dwyt ti ddim yn gallu deall neu ymwneud a – mae ‘na siawns da bod ti’n mynd i deimlo’n anghyfforddus o rywfaint. Ac er falle mai gen ti’n bersonoliaeth i anwybyddu’r teimladau yma y tro cyntaf, yr ail dro, a falle’r drydedd tro hefyd – ar ôl amser, os dyw’r deinameg ddim yn newid, a ti’n dechrau teimlo’n ynysig neu fel tocyn – mae’n hawdd deall pam bysa ti ddim am fynd yn ôl. Felly mae cael modelau rol sydd yn adlewyrchu rhan o dy hunaniaeth mor bwysig, achos yn syth mae’n helpu ti deall bod llwyddo yn y maes yma efallai yn anodd, ond mae’n bosib. Mae’r bobl sydd ddim yn deall hyn yn lwcus ac yn freintiedig achos mae’n golygu bod nhw erioed wedi bod yn y sefyllfa yma – bod nhw’n bia i’r mwyafrif. Mae hynny’n hollol iawn – ond dwi’n credu mai angen deall pam mae cael modelau rol i bawb ym mhob maes yn bwysig.

C. 100%! Pa gyngor sati’n rhoi i berson ifanc – sydd falla yn darllen hwn  -sy’n ysu cael eu troed yn y drws i weithio mewn sain?

A. Gwnewch eich ymchwil! Os mae gen ti’r modd dysgu sut i olygu sain – mae loads o feddalwedd ar gael sy’n golygu bod hi’n bosib gwneud o dy gyfrifiadur o adre! Gwrandewch ar podcasts gwahanol i weld beth sydd yn barod allan yna ac i roi syniad i ti o beth alli di gynnig sydd yn wahanol! Mae yn barod canoedd ar filoedd o bodcasts ar gael – mae rhaid i ti wneud dy hun i sefyll allan! Meddylia am dy don, dy lais, dy gynnwys, y math o bodcast di eisiau creu. Paid â bod yn swil! Os wyt ti’n edmygu rhywun yn y byd sain cysylltwch â nhw a gofyn am gymorth neu am brofiad gwaith. You don’t ask you don’t get!

C. Dwi o hyd yn chwilio am argymhellion podcasts! Be sgenti on-loop ar y funud?

A. Oooooh ‘This American Life’ ar gyfer materion cyfoes. ‘S-Town’ ar gyfer stori am ddirgelwch. ‘Where Should We Begin?’ gan Esther Perel os wyt ti am ddeall perthnasau rhamantus ac eisiau dysgu am dy hun. ‘The Receipts’ os wyt ti dros 16 mlwydd oed ac eisiau chwerthin.

C. *don’t mind me, jest yn ychwanegu pob un i’r Must Listens’*… A’n ola, be sydd ar y gorwel i chdi yn 2021? (ti’n cael rhannu!)

A. Ym mis Ionawr mi fyddai’n rhan o dîm fydd yn lansio podlediad newydd ar BBC R1Xtra ar gyfer pobl ifanc sy’n ddu ar draws y wlad, a dwi methu aros. Da ni wedi bod yn creu nifer o beilots ers mis Medi felly dwi’n ysu i ni ddechrau nawr! Dwi hefyd yn gobeithio neud cwpl o brosiectau ffurf hir hefyd, felly byswn i’n hoffi cael nhw off y llawr! Mae wastad rhywbeth i wneud ond mae rhaid cofio paceo fy hun. Mae 2020 wedi bod yn yn flwyddyn mor galed i bawb ac mae gweithio fel newyddiadurwraig du wedi bod yn galed iawn yn emosiynol. Y flwyddyn nesaf, dwi’n bwriadu dechrau eto – gyda rhagor o egni a brwdfrydedd!

Darllenwch rhifyn 3 yma.
Dilynwch Seren ar Twitter yma.