Thallo

Thallo Banner Image

Clywir gwraidd o arddull jazz, gwerin ac electronig yng ngherddoriaeth Thallo, sef prosiect Elin Edwards. Gyda chaneuon yn y Gymraeg a Saesneg, mae sain cyfoethog yn cael ei blethu’n ofalus rhwng ei llais a chyfeiliant band mewn trefniannau cymleth. Cafodd sengl ‘I Dy Boced’ ei rhyddhau yn 2019 ac mae’r gân wedi sefydlu Thallo fel “un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru” yn ôl Pyst.

Darllenwch rhifyn 3 yma.
Dilynwch Thallo ar Instagram yma.

Dyma’i chân ‘I Dy Boced’.

I Dy Boced
Galanas o wyrddlas briodas
rhwng y nosi a’r ddaear
Rhuban sidan euraidd
sydd yn llosgi llymder lleuad

Dos heibio heno
Ti’n hwyr eto
Dos heibio heno
Ti’n hwyr eto

Breuddwyd neu atgof i dy boced di,
Dropyn ar dafod dychymig
Golygfa i’w gadw;
mae na olwg uffernol ar dy wyneb di,
yn dy wynebu

Dos heibio heno
Ti’n hwyr eto
Dos heibio heno
Arllwys eto