Tegwen Bruce-Deans

Llun o Tegwen Bruce-Deans sy'n rhan o rifyn 4 zine Merched yn Gwneud Miwsig

Barn: Breuder y Sîn Cerddoriaeth Gymraeg ydy codwm y Ferch-Sy’n-Gwneud-Miwsig

Rhaid ei hwynebu hi: waeth faint mae rhywun yn claddu ei hun yn nathliad iwtopaidd gwyliau diwylliannol fel yr Eisteddfod o’r iaith Gymraeg, mae bod yn Gymraeg yn anodd. Ac er gwaethaf y dorf ffyddlon sy’n dilyn ein bandiau Cymraeg cu o gwmpas pob gŵyl yr haf i ymfalchïo yn eu cerddoriaeth, dydy creu cerddoriaeth mewn iaith leiafrifol ddim yn hawdd chwaith. Mae’r sîn cerddoriaeth Gymraeg o hyd am fod o dan orthrwm mawredd y sîn Eingl-Americanaidd ac, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni, y byd digidol sydd ynghlwm â hi hefyd. Onid dyna, ar ddiwedd y dydd, oedd ffortiwn llwyddiant ffrydio arloesol ‘Gwenwyn’ gan Alffa – taro’r hoelen ar ben yr algorithm Eingl-Americanaidd a lledu’r gair am eu trac Cymraeg trwy ffurf rhestr chwarae boblogaidd?

O ganlyniad i’r ansefydlogrwydd hwn fel sîn iaith leiafrifol, pan mae artist neu fand yn digwydd dod yn boblogaidd, tuedda pobl i lynu wrthynt: y gynulleidfa, labeli, hyd yn oed hyrwyddwyr. Mae yna fformiwla i’w ddilyn er mwyn dod yn boblogaidd, ac yn naturiol felly’r un math o fandiau sy’n dod i’r brig: sef fel arfer, yn anffodus, bandiau llawn bechgyn gwyn canol-y-ffordd. O ganlyniad, felly, mae’r fath boblogrwydd y mae’r sîn cerddoriaeth Gymraeg yn benderfynol o lynu wrtho yn wyneb gormes diwylliant mwyafrifol yn gallu trechu amrywiaeth. Ac mae’r diffyg amrywiaeth hwnnw’n bla gweladwy amlwg hefyd: efallai y bydd merch yn cael ei chynnwys yn line-up y gig diweddaraf, ond Duw â gwarafun ei bod hi’n unrhyw beth yn fwy nag addurn tocynistaidd o dan y brif act ar y posteri!

Ond er gwaethaf y geidwadaeth amlwg sy’n gallu bodoli yn y sîn, nid oes llawer yn newid oherwydd yr ofn o fynd yn erbyn y confensiwn poblogaidd. Gellir deall hyn yn iawn yn ei hanfod; dychmygwch fod yn hyrwyddwr gigs Cymraeg, yn brwydro i gael ddigon o ddiddordeb o amgylch cerddoriaeth Gymraeg yn eich ardal. Yn sydyn, mae band o fechgyn sy’n glynu wrth y fformiwla boblogaidd ac wedi’u gwarantu i ddenu a phlesio torf o bobl ifanc ar gael i chwarae gig yno. Wrth gwrs, mae’r band yma o fechgyn wedi chwarae’r un set mewn degau o gigs poblogaidd eraill yn ystod y misoedd diwethaf. Ond petai’r hyrwyddwr yn dewis rhywun amgenach na fyddai o reidrwydd yn diwallu’r fformiwla yn lle, efallai y buasai criw o bobl ifanc na fyddai byth wedi ystyried mynd i gig Cymraeg o’r blaen oni bai am yr atyniad poblogaidd ddim yn dewis mynd eto. Mae hyrwyddwyr yn ofn colli cefnogaeth i’w cerddoriaeth byw, neu hyd yn oed i’r sîn yn gyffredinol, os nad ydynt yn diwallu chwaeth y gynulleidfa am gerddoriaeth generig, boblogaidd.

Yn eironig ddigon, ceir nifer o enghreifftiau sy’n dangos mai dim ond yng Nghymru y mae’r ofn a’r breuder diwylliannol yn rhwystr. Ar yr adegau anffodus o brin rheini pan mae artist benywaidd yn torri’n rhydd ac yn dod yn ffigwr mawr yn y sîn, yr argraff ydy eu bod yn dechrau cael hyd yn oed yn fwy o gefnogaeth gan sefydliadau y tu hwnt i ffiniau’r sîn. Mae artistiaid fel Gwenno, Cate Le Bon a Cerys Matthews er enghraifft wedi derbyn clod rhyngwladol am eu dawn gerddorol, ond prin y clywn eu henwau nhw yn cael eu trafod yn y sîn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg bellach (er, mae’n ddiddorol i nodi, fod ffigwr fel Gruff Rhys dal i fod yn bwnc llosg gyda phob cenhedlaeth o wrandawyr). Sylwer hefyd nad yw Adwaith – band gyda chrin llwyddiant y tu ôl iddynt dros y blynyddoedd diwethaf – byth wedi headlinio gig confensiynol Maes B er enghraifft, ond eto wedi hedfan yr holl ffordd draw i Rwsia er mwyn perfformio yng ngŵyl UU.Sound yno. Tra mae’r merched yn brysur yn ffynnu tu hwnt i Gymru, adref mae hyrwyddwyr yn parhau i osod y bechgyn poblogaidd nesaf ar eu llwyfannau.

’Dwi ddim yn ceisio pwyntio bys at y bandiau poblogaidd hyn sy’n digwydd ateb diben y fformiwla boblogaidd, na chwaith yr hyrwyddwyr a’r sefydliadau – ni all rhywun eu beio am geisio sicrhau bod cynnyrch poblogaidd ar gael i wrandawyr ifainc y sîn. ’Dwi yn bersonol yn dal i fwynhau gwrando ar gerddoriaeth bandiau poblogaidd ifainc fel Gwilym neu Lewys, er enghraifft. Ond y cwestiwn allweddol yw: ym mhle dylai’r flaenoriaeth orwedd? Gyda sicrhau amrywiaeth yn y sîn, ynteu sicrhau ei pharhad yn gyfan gwbl? I fi, mae yna fwy o werth o fewn sicrhau amrywiaeth i gerddoriaeth Gymraeg. Gydag amrywiaeth eang yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan, bydd mwy o ferched yn cael eu hysbrydoli a’u cymell i gamu i’r llwyfan eu hunain. Bydd cydbwyso cynrychiolaeth o ferched o bob math yn y sîn wedyn yn arwain yn anochel at gynnydd yn yr amrywiaeth o gerddoriaeth y mae artistiaid benywaidd yn gallu cynnig i’r sîn. Gyda mathau o gerddoriaeth at ddant bob math o gynulleidfa, ni fydd gan hyrwyddwyr ddim dilemma wedyn o orfod dewis rhwng sicrhau cynrychiolaeth a diwallu awydd y gynulleidfa am fath benodol o gerddoriaeth sy’n boblogaidd ar y pryd. Bydd hynny, yn ei dro, yn sicrhau parhad i’r sîn yn ei ffordd ei hun. A pharhad iachach gyda hynny, sydd am sicrhau bod ein diwylliant brau ni yn medru sefyll ei dir yn erbyn gormes Eingl-Americanaidd heb orfod alltudio neb yn y broses.

Yn wreiddiol o Lundain ond wedi’i magu yng nghefnwlad Maesyfed, mae Tegwen Bruce-Deans bellach yn ei hail flwyddyn yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n ymddiddori mewn cerddoriaeth Gymraeg ers iddi fod yn ferch fach, wrth fynychu gigs yn aml gyda’i thad. Dechreuodd gyfuno ei hangerdd i ysgrifennu gyda’i chariad at gerddoriaeth flwyddyn ddiwethaf, wedi’i hysgogi gan ddiffyg cynrychiolaeth fenywaidd yn y sîn cerddoriaeth Gymraeg. Bellach, mae hi’n gyfrannydd cyson i sawl cyhoeddiad cerddorol fel Y Selar, Sôn am Sîn a Radio Cymru.

Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Tegwen Bruce-Deans ar Instagram yma.