Tess Wood

TessWood_MYGC_ZineFeaturedImage

Mae Tess Wood yn artist amlgyfrwng sy’n byw a gweithio yn Ne Cymru. Dros y pandemig, mae ei gwaith wedi symud tuag at ddefnyddio sain ac ysgrifennu fel ffordd o fynegiant, er taw obsesiwn gyda’r corff trwy weithrediad perfformiadol a meddwl beirniadol sydd wrth graidd ei hymarfer.

Dyma ymateb Tess Wood i’r gair ‘Prop’.

Prop – polyn neu drawst defnyddiwyd fel cefnogaeth neu i gadw rhywbeth mewn lle, yn nodweddiadol yn un nad yw’n rhan annatod o’r peth a gefnogir.

Yn ddiweddar, mae llawer o waith wedi bod yn digwydd o gwmpas datgymalu’r deall cyffredinol o ‘normau’ cymdeithasol a phatrymau ymddygiad. 

Dwi’n propio rhywun lan, person newydd, rhywun rydw i’n dod i adnabod. Mae’r person yma’n fwy na thebygol o fodoli o fewn strwythur sy’n cael ei gefnogi gan resymeg ddeuaidd.

1. Y tric yw; i gwestiynu.

Ydy’r prop yma wedi’i adeiladu er mwyn i ti dyfu, neu prop wedi’i adeiladu i gadw chi’n statig?

Fel person gwyn, wedi’i magu mewn cymuned wyn, wledig, rydw i wedi’n ‘indoctineiddrio’ i weld pobl trwy’r lens o ‘arall’. Mae’r syniad yma o ‘arall’ yn catalogio a chynnwys unrhyw un sydd ddim yn syth, ac yn pasio fel person gwyn. 

Nid yw hyn yn unig yn achosi brwydr fewnol gyda’r hunan sydd yn ceisio symud trwy fywyd gyda chariad a thiriondeb tuag at fodolaeth dynoliaeth amlochrog, ond hefyd yn achosi dryswch na ellir ei esbonio wrth gydnabod breintiau a phatrymau ymddygiad ein hun sydd, yn ddiamau, yn gysylltiedig â’r ffyrdd gwyn a heteronormyddol o weithredu o fewn gymdeithas.

Mae’r dryswch yma’n ofnus a phoenus, ac yn hawdd i’w drosglwyddo mewn i ofn trwy ymateb y system nerfus. Mae gallu ein cyrff i sbarduno ofn yn dacteg goroesi, galwad i weithredu sy’n gadael i ni wybod bod rhywbeth ddim yn iawn. Yn y stad yma, gallwch rewi, ffoi neu ymladd. Dwi’n cofio profi pob un o’r rhain wrth fynd yn erbyn yr ‘hunan’ mewn sefyllfaoedd ‘yn gymdeithasol normal’ (yn ôl y lens gwyn, syth). Yn aml, mae hyn yn achosi amwysedd llwyr i’n hymddygiad ein hun.

Pan sylwir eich bod chi’n slipio nôl i’r ymddygiad yma, gallwch deimlo brad mewnol. Dim ond gwres yn eich cledrau sydd ei angen, ciw corfforol, sy’n dweud ‘nid dyma pwy ydw i, dyma pwy maen nhw’n dweud wrthyf fod.’

Felly, beth wnewch chi? Gadewch e fynd. Ffeindiwch eich hun eto. Dychwelwch i’r Corff.

Mae’r delweddau yma’n catalogeiddio fy nghydweithrediad diweddar gyda’r artist dawns CJ Ashen. Mae’r perfformiad yn defnyddio’n diddordeb mewn sain a gweithdai fel ffordd o gynhyrchu deunydd sy’n ffocysu ar gwestiynu’r pethau sy’n teimlo’n gynhenid i’r hunan. Trwy weithio ar draws y disgyblaethau, rydym ni wedi gallu creu ffyrdd newydd o ddatblygu meddwl a deunydd perfformiadol, er enghraifft: recordio sgyrsiau, torri nhw, a’u troi nhw’n goreograffi. Rydym yn gobeithio gallu dangos y gwaith erbyn diwedd 2021.

Darllenwch zine Merched yn Gwneud Celf yma.
Dilynwch Tess Wood ar Instagram yma.