Hannah Cash & Gweni Llwyd

GweniHannah_MYGC_ZineFeaturedImage

Yn dilyn llwyddiant ysgubol zines Merched yn Gwneud Miwsig, mae’r rhifyn arbennig yma, Merched yn Gwneud Celf, wedi’i guradu gan ddwy o enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol 2018 a 2019. Y ddwy yw Gweni Llwyd a enillodd y wobr yn 2018 a Hannah Cash, a gipiodd y wobr yn 2019. Fe ofynnon ni llond llaw o gwestiynau i Hannah a Gweni ynglŷn â’i hymarfer creadigol, y zine, a pha gyfleoedd sydd yn y diwydiant celf i fenywod.

Ble ddaeth y diddordeb i greu celf?

Gweni: Dwi’n meddwl na chyfuniad o sawl o brofiadau cynnar ddaru sbarduno fy niddordeb: cael fy magu yn dirwedd weird Dyffryn Nantlle, cael fy llusgo i raves a gŵylia a phartis gan fy rhieni yn y 90au ar 00s, tyfu fyny ar y rhyngrwyd. Dwi’n meddwl bod fy mhractis dal i adlewyrchu’r profiadau yma – mae themâu fel y synhwyrol, y ffisegol a’r digidol, a’r absẃrd, yn llifo drwyddo.

Dwi hefyd yn cofio bod yn blwyddyn 7 a’r athro Dylunio Technoleg yn deud wrtha fy mod i “ddim yn greadigol” (chos oni ddim di neud ‘mind map’ y ffordd oedd o eisiau neu rywbeth!?) – so ella nes i gymryd hyna fel sialens? Dwi’n gweithio fel artist llawrydd ers 4 mlynedd, ac yn cychwyn cwrs meistr mewn celf gain ym mis Medi, so dwi’n teimlo’n eithaf hyderus fy mod i wedi profi e’n anghywir erbyn hyn!

Hannah: Un  o fy hoff bynciau yn yr ysgol oedd celf ac roedd gennyf athrawes da oedd yn annog mi i arbrofi gyda deunyddiau, ac unwaith i mi benderfynu mynd i astudio yn y brifysgol sylweddolais fod gweithio fel arlunydd yn bosibilrwydd. Mwynheais y broses o wneud gwaith a chydweithio ar draws disgyblaethau gwahanol.  Ac rwy’n credu mai dyna sy’n dal i yrru fy ymarfer heddiw, y broses o wneud yn hytrach na’r canlyniad.

 

Be ydych chi’n ei fwynhau mwyaf am fod yn artist yng Nghymru?

Gweni: Cwrdd a gweithio efo artistiaid eraill! Mae’n teimlo fel bod y rhan fwyaf o’r artistiaid sydd yma eisiau deialog efo pobl eraill, eisiau helpu’n gilydd ac eisiau i bethau cyffrous i ddigwydd yng Nghymru. Dwi’n gweithio fel rhan o colectif ers sawl mlynedd a dwi’n rili mwynhau’r gefnogaeth sy’n dod efo gweithio fel grŵp. Dwi’n meddwl bod ‘na fwy o ‘colectif ethos’ a’r eisiau i eraill lwyddo rhwng artistiaid yn lot o rannau o Gymru, sy’n wahanol i lot o lefydd arall yn y DU.

Hannah: Un o’r pethau dwi wedi darganfod ar ôl graddio yw bod yna bobl allan yna sy’n barod iawn i’ch helpu gyda cheisio am gyllid, cynnig adborth ac arweiniad i ddatblygu eich gyrfa. Rwy’n credu mai dyna un o’r pethau allweddol pan fyddwch yn dechrau allan fel artist yw dod o hyd i’r bobl dda sydd yn hapus i helpu chi.

 

Beth nathoch chi fwynhau fwyaf am ddewis artistiaid ar gyfer y zine yma?

Gweni: ’O’n i wrth fy modd yn cael ymchwilio’r artistiaid a chreu rhestr fer o waith mor gyffrous ac amrywiol. Nes i rili mwynhau gweithio efo Hannah – oni’n teimlo ein bod ni’n rhannu rhyw fath o weledigaeth esthetig debyg, a oedd e’n grêt cael dysgu mwy am yr artistiaid roedd hi wedi dewis.

Hannah: Rwy’n credu’n bendant gweld y gwaith yr oeddent am ei ddangos neu ei drafod. Hefyd dwi’n meddwl mwynheais ddewis amrywiaeth o artistiaid sy’n gweithio ar draws disgyblaethau. Hefyd, rydw i wir wedi mwynhau cyd gweithio a Gweni a gallu trafod y broses ddylunio a chyflawni’r hyn yr oeddem eisiau’r zine edrych yn weledol.

 

Sut mae’r dyfodol yn edrych fel i artistiaid yng Nghymru? Be’ gall y wlad wneud i gefnogi artistiaid yn well?

Gweni: Dwi’m yn siŵr sut mae’r dyfodol yn edrych fel i artistiaid yng Nghymru – mae’r sefyllfa wleidyddol post-cofid post-brexit yn peri pryder. Ond dwi’n teimlo’n gryf bod gymaint o botensial i gelf yng Nghymru, ac ella beth sydd angen ydi i bobl fel cyllidwyr yng Nghymru cymryd fwy o risgs a bod yn fwy agored i brosesau a systemau arbrofol, sy’n rhoi gwerth ar brofiadau go iawn yn lle jyst ticio bocsys. Yn sicr mae angen fwy o gefnogaeth, cyfleodd a chyllid i bobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol, pobl o liw, pobl LGBTQ+ a phobl eraill ar yr ymylon yng Nghymru – dwi’n meddwl bod y wlad efo’r tueddiad o fod yn ddiog efo petha fel cyfleoedd a rhaglennu sy’n ffafrio’r un rhai bob amser. Mae angen cael chwarae cyfartal.

Hannah: Rwy’n credu weithiau ei bod yn teimlo’n anodd creu gwaith, pan nad yw’r cyfleusterau ar gyfer creu ar gael yn rhwydd yng Ngogledd Cymru. Rwy’n credu fy mod i wedi bod yn ffodus gyda’r cysylltiadau rydw i wedi’u gwneud sydd wedi rhoi cyfleoedd i mi. Sy’n gwneud i mi feddwl am y rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at gysylltiadau yn y byd celf, be maen nhw’n ei wneud? 

Rwy’n credu bod angen help yn bendant i greu cyllid neu phreswyliadau yn targedu helpu artistiaid o bob cefndir i drosglwyddo o astudio i ddod yn arlunydd graddedig neu artist gyrfa gynnar. Rwy’n credu bod rhai o’r cyfleoedd hyn yn bodoli yn Ne Cymru ond nid cymaint yng Ngogledd Cymru. Rwy’n credu bod help i ddatblygu ceisiadau cyllid yn adnodd hanfodol y dylai pawb allu ei gyrchu.

 

Ydych chi’n meddwl bod digon o gyfleoedd i menywod sy’n creu celf yng Nghymru?

Gweni: Probably ddim i fod yn onest – byddai’n wych gweld mwy!

Hannah: Ar hyn o bryd, ni fyddwn yn dweud bod yna cyfleoedd penodol sy’n edrych ar ddatblygu cyfleoedd i fenywod yn y celfyddydau. Mae wedi bod yn cyfle da i weithio gyda menywod ar y prosiect hwn a hoffem weld cyfleoedd tebyg yn y dyfodol.

 

Darllenwch zine Merched yn Gwneud Celf yma.
Dilynwch Hannah Cash ar Instagram yma a Gweni Llwyd ar Instagram yma.