Ffug

Mae’r Ffug wedi bod yn brysur yn perfformio led-led prydain, gyda’i ffrindiau newydd sef y Super Furry Animals. Ers cael eu cymryd o dan adain yr Anifeiliaid Blewog, mae’r band wedi rhyddhau eu halbym cyntaf, ac yn dal i recordio yn stiwdios ‘Strangetown’ gyda Dafydd Ieuan lawr ym Mae Caerdydd.