Ysgol Sul

“lo-fi indie gyda thinc o shoegaze” yw’r geiriau i ddisgrifio eu sŵn yn ôl y band sy’n cyfareddu torfeydd ar draws Cymru. Ar ôl cael eu dewis yn rhan o raglen Gorwelion eleni, cafodd y triawd o Landeilo gyfle i recordio sesiwn yn stiwdios Maida Vale a’r cyfle i berfformio yng ngwyliau cerddorol blaenllaw Cymru o Gwyl Rhif Chwech ym Mhortmeirion i Gwyl Swn yng Nghaerdydd. Gan ddefnyddio llais dwfn trawiadol Iolo Jones y prif leysydd yn erbyn y melodiau Dream Pop, mae’n gyfuniad hollol unigryw i Ysgol Sul.