Ffian Jones

FfianJones_MYGC_ZineFeaturedImage

Mae Ffian yn ddylunydd ffasiwn o Gaerffili sydd yng nghanol astudio am radd meistr yng Ngholeg Celf Frenhinol, Llundain. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar faterion diwylliannol a chymdeithasol-wleidyddol sydd yn berthnasol i’w chymuned leol. Yn y gorffennol mae ei phrosiectau wedi sôn am bethau fel iechyd meddwl dynion a’r rôl o siopau elusen o fewn y gymuned. Prif bwrpas ei gwaith yw sbarduno trafodaeth a thynnu sylw at faterion gan roi iddynt gynrychiolaeth ddigonol. Ym mhob un o’i phrosiectau mae’n trio gweithio efo’r bobl y mae’r gwaith amdano. Yn ddiweddar, mai Ffian wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwyr creadigol Charlotte James a’r ffotograffydd Clementine Schneidermann i ail-ddychmygu’r wisg Cymraeg traddodiadol gyda’r clwb ieuenctid Jukebox yng Nghaerdydd.

Darllenwch zine Merched yn Gwneud Celf yma.
Dilynwch Ffian Jones ar Instagram yma.