Kathod

Gwaith celf y sengl Syniad o Amser gan Cadi Dafydd Jones

Wedi’i eni o gyd-weithrediad Heledd Watkins, Bethan Mai ac Ani Glass yn 2il rifyn zine Merched yn Gwneud Miwsig, mae Kathod yn fand sy’n newid ei aelodau’n barhaol gyda’r prif nod o greu miwsig ar y cyd, a lledaenu platfform i fenywod Cymru.

Felly, dyma ni gân gyntaf i ddod o’r prosiect – ‘Syniad o Amser’ – sydd wedi’i hysbrydoli gan themâu o wrachod, y lleuad, merched cryf a bod yn annibynnol. Mae’r gwaith celf gan Cadi Dafydd Jones (Torri + Gludo).

https://kathod.bandcamp.com/

Wrth iddi guradu’r rhifyn diweddaraf o zine Merched yn Gwneud Miwsig, penderfynodd Heledd Watkins y byddain hoffi datblygur prosiect ymhellach a chreu cerddoriaeth i gyd-fynd gydar cylchgrawn. 

Gofynnodd Heledd, syn aelod or band HMS Morris, i Bethan Mai (Rogue Jones) ac enillydd Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni, Ani Glass dderbyn sialens i ysgrifennu cân ar y cyd o bell, a’r canlyniad yw ‘Syniad o Amser‘ – cân grŵp newydd sbon o’r enw Kathod, a chafodd ei chlywed am y tro cyntaf nos Fercher, 25 Tachwedd ar sioe Lisa Gwilym, ar Radio Cymru.  Mae’r gân nawr ar gael ar Bandcamp, gyda’r arian yn mynd i Gymorth i Ferched Cymru.

Dywedodd Heledd Watkins, “Dwi wastad wedi bod eisiau cydweithio gyda merched eraill o’r SRG, ond wedi bod yn rhy nerfus i ofyn!  Ond, roedd y cylchgrawn yma a holl ddiflastod y cyfnod clo yn gyfle perffaith i fynd amdani.  Dwi wedi edmygu gwaith a thalent Bethan ac Ani ers blynyddoedd, ac wedi’u gweld nhw’n perfformio’n fyw droeon, ac mae hi wedi bod yn fraint anferthol i gael cydweithio efo nhw.

“Felly dyma rownd 1 Kathod, cân wedi’i hysgrifennu gen i a Bethan ac wedi’i chynhyrchu a’i chymysgu gan Ani Glass.  Dwi mor gyffrous i chi glywed ‘Syniad o Amser’!”

Ychwanegodd Bethan Mai, Mae wedi bod yn gyffrous iawn cael cyfle i greu rhywbeth fel criw o fenywod.  Yn wreiddiol, roedden ni wedi seilior syniad ar Atomic Kitten, ond wrth ir syniad ddatblygu, byddain grêt petair prosiect yn rywbeth syn gallu cario mlaen.

Dyn ni ddim eisiau i Kathod gael ei ddiffinio gan y lein-yp yma, ond yn hytrach bod modd iddo fe esblygu, gydag aelodau yn gallu picio mewn a mas, yn adlewyrchu gwahanol dalentau ac argaeledd pawb.  Ryn ni wir eisiau cadwr syniad yn ffresh a gwneud yn siwr ei fod en grymuso merched or cychwyn.”