Alys Williams

AlysWilliams_CoverImageWebsite_ZineIssue4MYGM

Sgwrs gyda’r cerddor Alys Williams

“Mae hi’n teimlo fel oes ers i unrhyw beth cyffrous ddigwydd ac felly dwi’n falch o gael cyhoeddi fy mod i wedi gallu rhyddhau sengl newydd ar yr 19eg o Fawrth. ‘You’ ydi enw’r gân ac mae hi’n swnio fwy neu lai yn union fel yr oeddwn i’n ei chlywed yn fy mhen wrth ei ’sgwennu ar biano allan o diwn yn fy nghartref yn Llanrug. Mae’n siŵr fod hynny’n swnio’n od, ond mae’n wir fod pob rhan o’r broses greadigol yn effeithio ar y cyfanwaith terfynol – a’r piano allan o diwn yn fan cychwyn y daith i lawer o’r caneuon dwi wedi’u rhyddhau hyd yma.

Dwi’n gweithio fel artist ers 8 mlynedd bellach ac wedi bod yn ffodus o gael cyfleoedd i gydweithio efo pob math o gerddorion. Dwi’n trysori’r holl brosiectau dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw. Yn fwy diweddar, dwi wedi bod yn arbrofi yn y stiwdio er mwyn creu a chynhyrchu fy nghaneuon fy hun. Mae hi’n braf cael y rhyddid llwyr sy’n bosib dan yr amgylchiadau hyn i drio unrhyw beth allan, gan ddefnyddio fy llais i greu synau a chordiau.

I ymhelaethu, dwi wedi bod yn lwcus iawn o gael canu fersiynau fy hun o glasuron Cymraeg a Saesneg – yn amrywio o Total Eclipse of the Heart mewn cyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm gyda cherddorfa’r ‘Welsh Pops’, i greu fersiwn syml a thyner o Un Seren gan Delwyn Sion, ar y cyd gyda Steffan Rhys Parry, ar gyfer hysbyseb Nadolig i S4C. Mae ’na ambell i uchafbwynt wedi dod yn sgil y math yma o waith, sef cael canu gyda cherddorfeydd, teithio’r wlad i berfformio mewn llefydd anhygoel, a chyfarfod a pherfformio efo pobl yr oeddwn wedi’u parchu ers blynyddoedd. Roedd hi’n fraint cael canu clasur Ryan Davies, ‘Pan Fo’r Nos yn Hir’ gyda Cherddorfa Gymreig y BBC dan arweiniad John Quirke i ddathlu pen-blwydd Radio Cymru yn 40 oed – profiad gwirioneddol fythgofiadwy. Dwi wedi mwynhau rhoi fy sbin fy hun ar ganeuon adnabyddus ond teimlaf, ar hyn o bryd, fy mod angen canolbwyntio fwy ar fy neunydd gwreiddiol fy hun. Yn eithaf eironig, daeth y cyfle i wneud hynny tra’n cydweithio ar gân oedd Yws Gwynedd wedi’i ’sgwennu ac isio i mi roi cynnig arni. Wnes i ddigwydd dangos cwpl o demos iddo fo o bethau roeddwn i wedi’u recordio ar ‘loop pedal’ dros y blynyddoedd. Prin oeddwn i wedi dangos y caneuon i neb gan eu bod mor fras â’r peth cyntaf wnaeth Yws oedd gofyn i mi faswn ni’n licio mynd ati i recordio a rhyddhau rhai ohonyn nhw. Llai na blwyddyn yn ddiweddarach, roedd ‘Dim Ond’ a ‘Don’t Mind’ allan i’r byd fel fy nghaneuon cyntaf swyddogol fel artist unigol.

Mae’r piano allan o diwn ers blynyddoedd ac wedi gwaethygu ers i mi symud tŷ cwpl o flynyddoedd yn ôl. Yn ychwanegol at y ffaith fod yna ambell nodyn sy allan o diwn yn llwyr, mae’r piano i gyd tua thôn allan ohoni hefyd. Dwi wedi cyrraedd y pwynt lle dwi ofn newid hynny ac yn eitha licio’r sŵn! Y piano yma ddefnyddiais i sgwennu’r demos i’r traciau ‘Llonydd’ a ‘Celwydd’, dwy gân a gafodd eu samplo gan Ifan Dafydd ar gyfer y ‘Record Las’.

Dydi cerddoriaeth rhy berffaith neu fformiwläig ddim yn apelio ata i wrth gyfansoddi, a dwi’n ffeindio fy hun yn cael fy nenu at bethau mwy diddorol a chyntefig ar y cyfan. O bosib felly, mae’r piano’n swnio’n union fel mae hi i fod, ac mae hi’n rhan annatod o fy mhroses i o greu cerddoriaeth. Y broses honno o gael syniad am gordiau ac alaw, recordio demo syml, a’i anfon draw at Yws i gael ei farn – yn rhannol am ei fod o’n ffrind, ond hefyd gan ei fod o’n rhedeg y label fydd yn rhyddhau’r gân yn y pendraw! Ar y pwynt yna, mae gen i syniad eithaf pendant o’r math o gynhyrchiad sy gen i mewn golwg, a dyma lle dwi’n falch o gael galw’r cynhyrchydd Rich Roberts yn ffrind hefyd!

Mae Rich wedi bod yn gymorth anferth i mi er mwyn dod â’r syniadau sydd gen i yn fy mhen yn fyw. Yn ogystal â phrofiad eang o greu pethau diddorol cyfoes, mae Rich hefyd yn gallu deall fy syniadau cerddorol gwahanol – sy’n cynnwys creu synau anarferol o’r newydd, defnyddio strwythurau a chordiau anarferol i’r cywair ’da ni’n defnyddio, ac mae o’n hollol agored i bob syniad sydd gen i – fel ychwanegu ‘hiccup’ fel un o’r prif synau mewn cytgan! Mae ‘You’ yn enghraifft berffaith o’r cydweithio sy’n digwydd yn y stiwdio, a chafodd y gân ei recordio a’i chwblhau’n wreiddiol wythnos cyn y clo mawr cynta. Fel llawer o artistiaid eraill, roedd gobaith i’w rhyddhau hi pan oedd ‘pethau’n gwella’, ond yn y pendraw roedd pawb yn cytuno ei bod hi’n amser i mi gael cerddoriaeth newydd allan – yn enwedig gan fod mwy o ganeuon i ddilyn.

Am y tro, dwi’n edrych ymlaen at ryddhau mwy o gerddoriaeth wreiddiol a dwi hefyd yn edrych ymlaen at recordio a rhyddhau rhagor o ganeuon efo ‘Blodau Papur’, gydag Osian a Branwen Williams, Aled a Dafydd Hughes, pan fydd bywyd yn dechrau edrych yn fwy normal. Un o’r pethau dwi wedi’i fethu fwyaf yn ystod y pandemig ydi cwmni ffrindiau da a chael perfformio efo nhw ym mhob cwr o’r wlad. Roedd rhyddhau albwm yn 2019 yn ffrwyth llafur cwpl o hafau’n gigio fel band, ac yn gyfle i roi llwyfan i rai o’r caneuon oedd Osh a Bran wedi’u ’sgwennu, a rhai yr oeddwn i wedi’u ’sgwennu amser maith yn ôl, ynghyd â rhai mwy diweddar a gafodd eu creu ar y cyd gan y band. Mae’r pandemig wedi gadael gwagle enfawr ym myd perfformio byw ac er bod llawer o artistiaid wedi gweithio’n galed er mwyn cynnig profiadau rhithiol i bobl yn eu cartrefi, does dim byd sy’n gallu ail-greu’r wefr o wrando ar gerddoriaeth fyw.

Mae’n anodd edrych yn rhy bell ymlaen y dyddiau yma, ond mae miliynau ohonom ni wedi dysgu ffordd newydd o fyw, am y tro, ac yn ysu am gael gweld bywyd yn edrych yn debycach i fel yr oedd cyn Cofid. Yn y cyfamser, yr oll allwn ei wneud ydi canolbwyntio ar y pethau sy’n ein gwneud ni’n hapus, ac mae creu cerddoriaeth yn rhan fawr o hynny i mi. Ar ôl rhyddhau ‘You’, dwi’n falch bod gen i gân arall sy’n barod i gael ei rhyddhau. Hefyd, dwi wedi dechrau rhoi caneuon newydd i lawr yn y stiwdio ‘rithiol’. Dwi’n edrych ymlaen at gwblhau’r rheiny a’u rhyddhau, ac yn gobeithio cael y cyfle i’w perfformio’n fyw yn y dyfodol agos.  Ond, tan hynny, mae pob cynllun i lawr mewn pensal!”

Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Alys Williams ar Twitter.