Eädyth

Eadyth Banner Image

Aml-offerynnwr sy’n hunan-gynhyrchu yw Eädyth. Mae hi’n creu R&B modern llawn enaid a haenau. Fe greodd hi darn wreiddiol o gerddoriaeth yn arbennig ar gyfer y prosiect.

“Ar gyfer y darn yma wnes i recordio vocal adlibs mewn i Ableton a chwarae o gwmpas gyda nhw, torri nhw lan chydig bach a creu tipyn o melodi fel rhywbeth i gychwyn ffwrdd. Arol cael rhain i lawr, roedd e’n haws cael teimlad o lle byddai’r build up yn mynd nesaf a pa fath o vibe byddain hoffi rhoi i’r darn. Neshi greu beat gyda ryw 90’s hip-hop vibe onin teimlo oedd yn gweddu y vocal cuts, a wedyn rhoi clychau “effected” i lenwi y trac allan. Syml ond effeithiol a hollol chill.”

Darllenwch rhifyn 3 yma.
Dilynwch Eädyth yma.

Dyma’r gân sgwenodd Eädyth ar gyfer y zine…