ELEN

Elen_CoverImage_Zine2MYGM

Helo! Elen ydw i – dwi’n gweithio fel curadur a cynhyrchydd ar brosiectau rhyngwladol yn y celfyddydau. Dwi’n ddigon ffodus i weithio ar bopeth o gerddoriaeth a chelf gyfoes i theatr a gwyliau. Mae fy nghefndir i yn y celfyddydau gweledol, a dwi’n gweithio ar ddatblygu fy mhractis o gwmpas actifyddiaeth, newid cymdeithasol, Masnach Deg (gan gynnwys yn y celfyddydau!) a’r teimlad ‘na sy’n dod drosoch chi pan da chi’n darganfod rhywbeth – boed hynny’n ryw ddarn o farddoniaeth, cerddoriaeth, cerdded o gwmpas tref fach ar ochr arall y byd, drysfa o arddangosfa neu cysylltu efo person arall. Mae’r cyffro ‘na sy’n dod gyda chwilfrydedd, yn rhywbeth dwi’n ceisio ei ail-greu yn fy ngwaith.

Mae cydweithio gydag artistiaid a cherddorion wedi fy nghymryd i i nifer o lefydd gwahanol – o SXSW yn Austin, Indie Week Toronto, Folk Alliance International yn Kansas City a POP Montréal, i fynychu Biennales Shanghai, Venice a Berlin. Mae cysylltu’n rhyngwladol yn bwysig i nifer o artistiaid, ond dydy hynny ddim wastad yn hawdd heb gymorth a phrofiad, felly dwi’n cydweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu cyflwyno neu perfformio eu gwaith yn y ffordd orau bosib, ac yn cysylltu gyda chyfleoedd a chynulleidfaoedd lleol neu rhyngwladol sydd yn mynychu’r digwyddiad. Mae gwybod sut i ddatblygu a meithrin rhwydweithiau yn ddefnyddiol iawn i allu gweithio’n  rhyngwladol – ond y peth pwysicaf dwi’n credu sydd ei angen ydi parodrwydd i wrando, i ddysgu ac i fod yn agored at syniadau, diwylliannau a phobl wahanol. Mae ‘na lawer o baratoi a dilyn fyny i’w wneud ar gyfer mynychu’r digwyddiadau hyn – a dipyn bach o siarad busnes i’w wneud – ond mae hi’n fraint cael cydweithio gyda pobl diddorol a chael gymaint o hwyl a chreadigrwydd yn fy ngwaith.

Darllenwch rhifyn 2 yma.
Dilynwch Elen ar Instagram.

Gwaith celf collage gan Elen Llwyd ar gyfer rhifyn 2 o zine Merched yn Gwneud Miwsig