Gwenno Morgan
Cyflwyno’r artist Gwenno Morgan
Pianydd, cyfansoddwr a hunan-gynhyrchydd ydy Gwenno. Yn ei cherddoriaeth clywir cyfuniad o ddylanwadau jazz a gwerin, yn ogystal ag elfennau clasurol, sy’n deillio o’i hyfforddiant fel pianydd clasurol. Mae ei cherddoriaeth yn asio melodïau gwerin a jazz ar y piano gyda synau electronig hudolus a minimalistig, sy’n ennyn hiraeth am lefydd a digwyddiadau arbennig.
Caiff EP cyntaf Gwenno, sy’n gyfuniad o draciau minimalistig a cinematig, ei ryddau gyda IKaChing fis nesaf; a bydd prosiectau eraill hefyd yn cael eu lansio ddiwedd mis Mawrth, gan gynnwys rhai ar y cyd hefo dau o artistiaid mwyaf blaenllaw y SRG.
Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Gwenno Morgan ar Instagram.