Jenipher’s Coffi

JeniphersCoffi_CoverImageWebsite_ZineIssue4MYGM

Y fenywod tu ôl i’r busnes masnach deg Jenipher’s Coffi yn trafod sut ddaeth y fusnes i fodoli

O’r ffermwyr i’r darlunydd, rheolwr prosiect a thîm chyfathrebu, merched sydd yn rhedeg y sioe yn Jenipher’s Coffi, coffi Masnach Deg newydd i Gymru wedi ei enwi ar ôl Jenipher – is-gadeirydd cydweithrediad o dros 3,000 o ffermwyr ar Fynydd Elgon yn nwyrain Uganda. 

Ffion Storer Jones, merch fferm o ganolbarth Cymru ydi Rheolwr Cyfathrebu’r prosiect. 

“Fi sydd yn gorchwylio holl weithgareddau cyfathrebu’r brand – o greu’r brand i weithio gyda’r wasg i gynhyrchu adnoddau addysg a Instagram. Ond nid fi sydd yn gwneud popeth, gan fy mod i’n gweithio un diwrnod yr wythnos yn unig, ac mae’n fraint  felly cael gweithio gyda chriw o ferched (fwyaf), fel Meg ac Elen sydd wir yn credu yn y brand, a’i werthoedd. 

Llun o'r ffermwyr a Jenipher yn UgandaAr ôl cwrdd â Jenipher a’i chyd-ffermwyr ar Fynydd Elgon yn Uganda dros bum mlynedd yn ôl, roeddwn ni a llawer o bobl eraill o Gymru eisiau eu cefnogi drwy Fasnach Deg. Mae pobl ar draws Cymru wedi cwrdd â Jenipher dros y blynyddoedd, yn ystod Pythefnos Masnach Deg, ag roeddent hefyd eisiau cefnogi hi a’i chymuned. Roeddem yn gwybod mae’r ffordd orau o’u cefnogi oedd trwy brynu eu coffi ar delerau Masnach Deg, ac ar ôl derbyn grant gan Lywodraeth Cymru, fe anwyd Jenipher’s Coffi. 

Mae Jenipher yn ysbrydoliaeth. Yn fam weddw i chwech o blant, mae hi wedi dringo, er gwaethaf llawer o rwystrau i fod yn arweinydd yn ei maes ag yn ei chymuned. Mae hi’n codi menywod eraill i fyny i fod yn arweinwyr, gan weithio iLlun o'r ffermwyr a Jenipher yn Uganda greu cymdeithas sydd yn fwy cyfartal ac sydd yn parchu, ac yn gwrando ar leisiau merched. Dyma un rheswm allan o lawer rwyf fi’n browd iawn o fod yn rhan o’r prosiect yma. Mae’n dewisiadau ni wrth siopa yn medru cael effaith fawr ar fywydau merched, a chymunedau yng Nghymru ac ar draws y byd – rwy’n teimlo’n angerddol iawn am hyn. 

Llun o Ffion Storer Jones o Jenipher's CoffiMae’r brand wedi ei sefydlu, a gobeithio’n adlewyrchu parch – o ferched, o’r amgylchedd, o draddodiad, diwylliant a chymunedau. Mae’r coffi’n cael ei rhostio gyda llaw ym Mhen-y-bont ac rydym yn falch o weithio mewn ffordd gydweithredol, gan gysylltu cymunedau yng Nghymru ac Uganda. Roedd cael y ffermwyr, a’r iaith Gymraeg yng nghalon ein brand cynaliadwy yn bwysig iawn i ni. Mae’r coffi wedi ei dyfu i safonau Masnach Deg ag Organig, ac mae’r pecynnu yn gallu cael ei ailgylchu. Mae’r coffi hefyd ar gael i’w brynu ar ffurf ddiwastraff yng Nghaerdydd a Penarth – a gobeithio medrwn ymestyn y gwasanaeth yma’n ehangach yn y dyfodol cyfagos. Mae addysgu pobl am sut mae coffi’n cael ei gynhyrchu a’r bobl sydd tu ôl un o’n hoff ddiodydd yng Nghymru, ag yn enwedig sut mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt hwy yn rhan bwysig iawn o’n brand, a’n cymuned hefyd. 

Rydym ond newydd ddechrau, ond mae gennym ni freuddwydion mawr! Ein breuddwyd yw bod pawb yng Nghymru sy’n caru coffi yn cael y cyfle i brynu Jenipher’s Coffi, a dod i ddeall y gwahaniaeth mae ein dewisiadau o ddydd i ddydd yn medru eu creu. Hoffem efallai rhostio’r coffi ein hun ryw ddydd a chyflogi pobl ifanc a datblygu sgiliau cenedlaethau’r dyfodol.”

Meg Richards, cyfathrebwraig sydd hefyd o ganolbarth Cymru yw Curadur Instagram Jenipher’s Coffi.

“Fi sy’n helpu creu cynnwys ar gyfer tudalen Instagram Jenipher’s Coffi. YmunaisLlun o coffi Jenipher's Coffi â’r brand ym mis Tachwedd ar ôl gweld hysbyseb ar stori Instagram Ffi. Roeddwn i wedi bod yn edrych am waith gydag achos y byddwn i’n gallu dweud fy mod i’n falch ohono am amser hir; pan welais i ei stori hi roeddwn i’n gwybod ar unwaith mod i eisiau gweithio gyda’r prosiect.

 

Mae Jenipher’s Coffi yn delio gyda materion sy’n bwysig i mi’n bersonol – fel pris teg i bawb sy’n rhan o’r broses, hybu a chefnogi menywod yn y gweithle, a bod dulliau cynhyrchu sydd yn ofalus o anghenion yr amgylchedd ac sy’n gynaliadwy yn cael eu defnyddio. Mae’n fraint i fedru helpu addysgu’r cyhoedd am ein taith ni o gwmpas y materion hyn. Mae’r gwaith yn teimlo’n hynod o werth chweil i mi. Hefyd – mae’r coffi yn lysh!

Llun o coffi Jenipher's CoffiUn peth arall dwi’n rîli hoffi yw bod y cwmni yn ddwyieithog. Ar ôl gadael prifysgol gweithiais mewn swydd gyfathrebu; er bod rhai cwmnïau yr oeddwn i’n eu cynrychioli o dan ymrwymiad i ddefnyddio’r Gymraeg oherwydd Safonau’r Gymraeg, roedd e wastad yn teimlo fel petai ddefnyddio’r iaith mewn ffordd ddeinamig a chlyfar ar waelod y rhestr o bethau pwysig ganddynt. Dwi’n meddwl ein bod ni’n gweld twf mewn defnydd o’r iaith mewn ffordd ‘cŵl’ ymhlith pobl ifanc dyddiau ‘ma’ ac mae e mor gyffrous i fod yn rhan o’r symudiad yma. Mae’r ffaith bod Jenipher’s Coffi yn y Gymraeg a’r Saesneg yn bwysig i mi.

Am frand bach sydd reit ar gychwyn ei daith, mae ‘na gymaint o hanes tu ôl i Jenipher’s Coffi yn barod. Wrth edrych yn ôl, doedd dim byd y byddai wedi gallu fy mharatoi ar gyfer fy nghyfarfod cyntaf a de-brief gyda Ffi ac Elen! Mae’r ddwy wedi gweithio’n ddiflino wrth ddatblygu’r brand o’r diwrnod cyntaf ac mae’r tan yn eu boliau yn amlwg. Dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dîm o ferched sydd ynLlun o Meg Richards o Jenipher's Coffi gweithio’n galed dros rywbeth maen nhw wir yn credu ynddo, ac mae’n anodd peidio bod yn frwdfrydig wrth weithio gyda nhw. Mae hanes Jenipher yn unigryw a diddorol. Mae gwneud yn siŵr bod ei stori lawn, yn ei holl gymhlethdod gwych yn cael ei ddarlunio i’n cynulleidfa Instagram yn gallu bod yn her, ond mae e wastad yn hwyl. Rydyn ni i gyd wedi ymrwymo i’r ffaith mai Jenipher yw seren y sioe, ac mae ein tudalen Instagram yn ffordd greadigol i ni fedru rhannu ei stori, a stori’r coffi. 

Ar hyn o bryd dwi’n gweithio gyda Jenipher’s Coffi yn llawrydd, ychydig o oriau bob wythnos. Dros y misoedd dwi wedi gwylio wrth i ddiddordeb pobl a’u hymddiried yn y coffi dyfu ac mae’n hyfryd i weld. Mae’r adborth gan bawb yn bositif ofnadwy ac mae’n ddigon i wneud i mi eisiau gwneud y gorau fedra i ar gyfer Jenipher a’r ffermwyr i gyd draw ym Mynydd Elgon.

Os oes gennych chi gwestiwn, mae’n DMs ar Instagram bob amser ar agor.”

Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Jenipher’s Coffi ar Instagram.