Mari Elen
Sefydlwr y podcast ‘Gwrachod Heddiw’ Mari Elen yn rhannu darn o farddoniaeth gyda ni
Dramodydd, Gwneuthiwr Theatr, Artist a Chrëwr podleiad #GwrachodHeddiw yw Mari Elen sy’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i phartner a’i meibion. Mae hi’n hoffi gwrachod, panads o de a Beyonce.
—
“Dwi’n caru pobl a dysgu mwy amdanyn nhw. Mi fysa’r byd yn lle llawer gwell tasa pawb yn gwrando a dysgu o brofiadau a straeon ei gilydd. Straeon sy’n fy ysbrydoli, ac sy’n gatalydd i mi ddechrau creu. Fel arfer, ma’ fy ngwaith i’n canolbwyntio ar straeon benywaidd, ac ymchwilio mewn i’r cysyniad o “Gymreictod”. Sgriptio ydw i’n bennaf, ond dwi’n cael budd mawr yn perfformio, barddoni a dysgu mwy am wrachod.”
Boddi
Clywch sgrech merch sy’n methu
dal fyny hefo’ch disgwyliadau ohoni,
I garu, gofalu a magu,
Deffro pob bore a gwenu. Gadewch i’r ferch weiddi,
rhegi a bodloni ar fodoli
fel hi ei hun,
yn union fel
y mae hi.
Achos ar hyn o bryd,
mae’n boddi.
Darllenwch rhifyn 4 yma.
Dilynwch Mari Elen ar Twitter.